Книга Y Gyfraith yn ein Llên

Код товару: 20491478
Формат
Видавництво
Рік видання
Опис книги

1. Astudiaeth aroloesol o'r modd y mae'r gyfraith wedi ei phortreadu gan feirdd a llenorion Cymraeg 2. Llyfr sydd yn olrhain hanes y gyfraith yng Nghymru trwy gyfrwng llenyddiaeth Gymraeg, o'r oesoedd canol hyd at yr unfed ganrif ar hugain 3. Cyfrol sydd yn adrodd hanes llenyddiaeth Gymraeg trwy lygaid y cyfreithiwr.

Ar hyd y canrifoedd, bu’r gyfraith yn ysgogi, ysbrydoli a chynddeiriogi beirdd a llenorion Cymru. Dyma gyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith. Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.

Характеристики
Видавництво
Кількість сторінок
304
Відгуки
Виникли запитання? 0-800-335-425
Зв'язатися