• Mae mathemateg yn rhywbeth i bawb a Cyfri’n Cewri yn llyfr i bawb. A fydd yn fodd i bobl dderbyn mathemateg fel rhan naturiol o’r diwylliant Cymreig.
• Mae Cyfri’n Cewri yn hawdd ei ddarllen gan achosi i chi wenu, i golli ambell ddeigryn, ac i grafu’ch pen o dro i dro.
• Mae’r llyfr yn dangos bod mathemateg yn ffrwyth gwaith pobl o gig a gwaed gyda’u hemosiynau a’u teimladau, fel pawb arall.
Mae Cyfri’n Cewri yn dathlu bywyd a gwaith mathemategwyr a gysylltir â Chymru. Pan gyfansoddwyd yr anthem genedlaethol ym 1856, roedd Cymru ym merw y Chwyldro Diwydiannol, gyda chymdeithasau gwyddonol yn codi fel madarch ar hyd a lled y wlad. Erbyn diwedd y ganrif, roedd ein dehongliad o’n diwylliant fel un sy’n cynnwys y gwyddorau yn ogystal â’r celfyddydau wedi culhau i gynnwys barddoniaeth, cerddoriaeth a chrefydd ar draul bron i bopeth arall. Yn dilyn poblogrwydd ei gyfrol Mae Pawb yn Cyfrif, mae’r awdur yma’n defnyddio’r un arddull i’n gwahodd i ymfalchïo yn ein mathemategwyr ac i ddangos sut y mae’r rhod wedi troi.